Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg>Hawliau Myfyrwyr

Hawliau Myfyrwyr

Eich hawliau chi

Mae gennych chi, fel myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru, hawliau eang a phendant i dderbyn gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Ers i Safonau'r Gymraeg ddod i rym yn 2018, cafodd nifer o ddyletswyddau iaith eu rhoi ar Brifysgolion yng Nghymru. Mae'r dyletswyddau iaith / 'Safonau' yma'n galluogi i chi dderbyn y canlynol yn Gymraeg:

  • Llythyrau
  • Ffurflenni
  • Gwasanaethau Cwnsela
  • Ceisiadau am gymorth ariannol
  • Cyfarfodydd
  • Llyfrynnau croeso
  • Tystysgrifau
  • Cyflwyno asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg (traethodau, arholiadau ayyb)
  • Tiwtor personol  
  • Prosbectws

Cofiwch taw'ch hawliau chi yw'r rhain fel myfyrwyr. Mae'n bwysig eich bod yn eu ddefnyddio nhw ar bob adeg os yw'n well gennych dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Yn ychwanegol i'r Safonau, cafodd yr hawliau uchod eu cymeradwyo fel rhan o Bolisi Sefydliadol y Brifysgol ar yr iaith Gymraeg. Mae'r Brifysgol felly'n hollol gefnogol o'ch hawliau fel myfyrwyr Cymraeg yn y Met ac rydym yma i'ch cefnogi chi.

Cysylltu

Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynglŷn â'r uchod neu i gael fwy o gyngor, cysylltwch â'r Uned Gymraeg ac fe fyddwn yn hapus iawn i'ch helpu.

unedgymraeg@cardiffmet.ac.uk